Theatr Troed-y-rhiw

y ddrama gymraeg yn ei chadarnleoedd
welsh drama for and from the welsh-speaking heartlands

Hafan : Diwedd Y Byd

Swyddfa Troed-Y-Rhiw
Campws Felin-Fach
Dyffryn Aeron
Ceredigion
SA48 8AF

01570 471328

 

swyddfa@theatrtroedyrhiw.com

  • Troed-y-rhiw
  • Troed-y-rhiw
  • Troed-y-rhiw
  • Troed-y-rhiw
  • Troed-y-rhiw
  • Troed-y-rhiw
  • Troed-y-rhiw

DIWEDD Y BYD

Taith Diwedd y byd  - Sioe arbennig gan Droedyrhiw fydd yn cofnodi diddymu cymdogaeth Gymraeg Mynydd Epynt, 70 mlynedd yn ôl i haf eleni. Mi fydd y cynhyrchiad hwn (a berfformir mewn capeli yn unig) ar daith yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf. Mae’r sioe yn cynnwys lleisiau Dafydd Iwan, Angharad Tomos, Ffred Ffransis, T. James Jones a Dr. Meredydd Evans. Manylion llawn cyn bo hir.



Tomos Morgan Epynt

Mynydd Epynt. Sir Frycheiniog. Mis Gorffennaf, 1940. Does neb ar ôl. Maer 220 o bobl oedd yn byw yn y 54 o ffermydd wedi mynd. Wedi gorfod mynd yn unol â gorchymyn Llywodraeth ei Fawrhydi. Diddymwyd cymdogaeth Gymraeg y mynydd.

Ymhlith y rhai a alltudiwyd y mae dau frawd: William a Thomas Morgan, ffarm Glandŵr, cwm Ysgir Fechan. Maer ymarfer milwria a thanio bomiau wedi dechrau. Ar waethaf hyn y mae Tomos yn ymlwybron gyson oi gartref newydd ochr isar range yn ôl i aelwyd ei fagwrfa i gynnau tân; i gadwr hen dŷ yn gras ar gyfer y dydd y bydd y rhyfel drosodd ac y bydd efe, ei frawd au cymdogion oll yn dychwelyd ir mynydd.

Nid yw Tomos wedi deall na ddawr dydd hwnnw byth mwyach.
Rhyfel ai peidio, nid oes dychwelyd i fod.

Nid ywn deall nes y dydd hwnnw y mae en dilyn y llwybr, yn ôl ei arfer, gydag ymyl y nant. Yn rowndior tro. Yn sefyll yn ebrwydd.
Oi flaen y maer olygfa ryfeddaf a welodd erioed, erioed. Lle safai Glandŵr ei dreftadaeth nid oes dim namyn pentwr o gerrig.
Yn ymyl saif capten milwrol. Mae ganddo neges: We have blown up the farmhouse. You wont need to come here anymore.

Tomos Morgan
Glandŵr
Ysgir Fechan
Epynt

Cliciwch 'Darllen Mwy' i weld ffilm 4 munud

Darllen mwy...