Theatr Troed-y-rhiw

y ddrama gymraeg yn ei chadarnleoedd
welsh drama for and from the welsh-speaking heartlands

Hafan : Y Dyn Drwg a'r Da Da

Swyddfa Troed-Y-Rhiw
Campws Felin-Fach
Dyffryn Aeron
Ceredigion
SA48 8AF

01570 471328

 

swyddfa@theatrtroedyrhiw.com

  • Troed-y-rhiw
  • Troed-y-rhiw
  • Troed-y-rhiw
  • Troed-y-rhiw
  • Troed-y-rhiw
  • Troed-y-rhiw
  • Troed-y-rhiw

Y Dyn Drwg A'r Da Da


Y Dyn Drwg a r da daY DYN DRWG A’R DA DA

 

Gall tair buwch dda helpu ffarmwr bach o Gardi i wrthsefyll tricie brwnt dyn drwg a chas Global Supermarkets UnLimited (â help dwrgi sydd ddim yn siwr a odi e’n ddwrgi da neu’n ddwrgi drwg)? 

 

 Dyna gwestiwn mawr sioe a berfformir ddwy waith mewn un noswaith ar ymylon Eisteddfod yr Urdd eleni. Medd Rhodri ap Hywel, un o awduron y sioe deulu boblogaidd hon ‘Ar ôl cael neuaddau’n orlawn ar hyd a lled siroedd y gorllewin yn gynharach eleni mae’n braf cael y cyfle i rannu hwyl a llawenydd y sioe deulu-gyfan hon â chynulleidfaoedd o bob rhan o Gymru.’

 

Nos Iau, 3 Mehefin, yn Neuadd Goffa Aberaeron fydd yr unig gyfle i weld Y DYN DRWG A’R DA DA. Ond mae ‘na ddewis: naill ai 6.00 o’r gloch neu 8.15 o’r gloch.

 

Bydd dim mynediad ar gyfer bobol nag y’n nhw’n barod i gyd-weiddi, gyd-sgrechian a chyd-chwerthin!